Psalms 60

Gweddi am help Duw yn y frwydr

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia
60:0 Hebraeg,  Aram-naharaim
a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom – byddin o ddeuddeg mil – yn Nyffryn yr Halen. b

1O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni
a bylchu ein hamddiffyn.
Buost yn ddig gyda ni.
Plîs adfer ni!
2Gwnaethost i'r tir grynu,
a'i hollti'n agored.
Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!
3Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl;
a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.
4Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilyn
allu dianc ati rhag saethau'r bwa.

 Saib
5Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni
er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
6Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:
“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,
a mesur dyffryn Swccoth.
7Fi sydd piau Gilead
a Manasse hefyd.
Effraim ydy fy helmed i,
a Jwda ydy'r deyrnwialen.
8Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.
Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,
ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”
9Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?
Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
10Onid ti, O Dduw?
Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!
Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
11Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,
achos dydy help dynol yn dda i ddim.
12Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –
bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Copyright information for CYM